'Dal eiliadau ar eu orau'
CROESO MAWR I'R WEFAN!

Amdanom ni

Rydym yn gwmni Cymreig wedi ei leoli yn Rhuthun, Gogledd Cymru. Y sylfaenydd yw Gethin Humphreys ac mae wedi creu'r cwmni Ffotograffiaeth GH Photography i ddarparu lluniau a fideos i unigolion, sefydliadau, ysgolion a busnesau am bris rhesymol.


Beth mae'r cwmni'n ei wneud?

Rydym yn creu lluniau a fideos o ddigwyddiadau amrywiol gyda chamera a drôn er mwyn eu gwerthu i’r cleient neu unrhyw un sy’n dymuno cael copi.


Beth yw nod y cwmni?

Ein nod yw cydweithio gyda busnesau, ysgolion, colegau ac unigolion a chreu lluniau a fideos ar gyfer y cleient fel atgof o ddigwyddiad / diwrnod / wythnos / cyfnod arbennig am bris rhesymol. Rydym hefyd yn meddwl am ffyrdd o gynhyrchu fideos / lluniau difyr a gwreiddiol.


A oes gan y cwmni dystysgrif A2 Cofc (Tystysgrif Cymhwysedd A2)?

Oes. Rydym wedi pasio'r arholiad ac mae hyn yn brawf i gleient ein bod yn gwbl ymwybodol o'r rheolau ac yn eu dilyn. Mae hefyd yn brawf ein bod yn ddibynadwy wrth ddefnyddio'r dron o gymharu gyda chwmnïau sydd heb dystysgrif 'A2 Cofc'.


A oes gan y cwmni yswiriant?

Oes. Rydym yn defnyddio offer all fod yn beryglus wrth ffilmio neu dynnu lluniau ac mae yswiriant yn hanfodol i ni. Gallwn ddarparu gwybodaeth yswiriant a thalu am y difrod os oes damwain yn digwydd wrth ddefnyddio ein hoffer. Rydym yn dilyn rheolau iechyd a diogelwch ac yn asesu pob risg yn fanwl cyn i ni ddechrau ffilmio a thynnu lluniau.

Llun tirweddLlun portreadLlun o dinbych oafon chicago
Ein Gwasanethau 

Llunia a fideos o'r awyr / Camera digidol  

  • Teuluoedd

  • Ffrindia

  • Dathliadau

  • Dosbarthiadau Ysgol, ysgol cyfan, colegau a gweithgareddau

  • Tai a gerddi 

  • Ffermydd 

  • Priodasau

  • Achlysuron arbennig

  • Gologefydd

  • Modelu

  • a mwy


Adolygiad  
Ysgol Pant Pastynog
Cawsom wasanaeth GH i dynnu llun dron o ddisgyblion yr ysgol. Roedd yn wasanaeth hwylus a phroffesiynol ac roeddem wrth ein boddau gyda’r llun gorffenedig. Diolch yn fawr


Cysylltwch a ni 
Enw Ebost Neges Rwy'n cytuno i'r Telerau ac Amodau a'r Polisi Preifatrwydd
botwm anfon